Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach: Cylch Gorchwyl | Inquiry on the Impact of Brexit on Higher and Further Education
IB-03
Ymateb gan: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)
Response from: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)
Gweler Cwestiwn 2 (Erasmus +).
Mae pryderon sylweddol ynghylch y perygl o golli mynediad i’r cynllun Erasmus+.
Mae gan y cynllun Erasmus rôl mewn cynnig cyfleoedd nid yn unig ar gyfer cyfnodau preswyl dramor, ond ar gyfer teithiau gwaith maes. Gall y naill math o brofiad a’r llall gynorthwyo i sefydlu cysylltiadau rhwng sefydliadau ac unigolion yng Nghymru ac mewn amrywiol ardaloedd o gyfandir Ewrop – cysylltiadau a all ddod â budd hirdymor ar nifer o wahanol lefelau (unigol/gyrfaol/personol, sefydliadol, a chymdeithasol/gwleidyddol).
Ar hyn o bryd, mae’n bosib i academyddion mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gydweithio gydag academyddion o brifysgolion mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), er enghraifft ar brosiectau cymharol. Gall rhain fod yn brosiectau sylweddol iawn eu maint, a/neu’n brosiectau mewn meysydd penodol iawn.
Yn y cyswllt hwn, mae pryderon yn codi ynghylch a fydd y math hyn o waith yn bosib yn y dyfodol yn sgil:
· lleihad cyffredinol yn y cyfleoedd am ariannu (nifer y ffynonellau, ac o bosib maint y ffynonellau Prydeinig yn ogystal)
· rhwystrau gweinyddol eraill i gydweithio a sefydlu rhwydweithiau ymchwil Ewropeaidd a allai ddod yn sgil Brexit
· blaenoriaethau’r cynghorau ymchwil Prydeinig, sy’n gallu bod yn wahanol iawn i’r ffynonellau Ewropeaidd, ac o bosib yn llai cydnaws â rhai meysydd ymchwil cymdeithasegol/gwleidyddol â dimensiwn ‘Cymreig’ mewn cyd-destun cymharol